Amdanom ni

IMG_3026.JPG

“Mae fy nwyddau yn unigryw, ac wedi’i creu gyda llaw, er mwyn sicrhau y safon gorau i’r cwsmer” Eirian Wyn

Eirian ydw i, rwy’n wraig ffarm ac yn Fam i dri o blant prysur!  Wrth drefnu priodas fy hun yn 2007, daeth i’r amlwg bod bwlch yn y farchnad am wahoddiadau a deunyddiau priodas yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog. Fel un sy’n ymddiddori mewn dylunio ers pan yn blentyn, penderfynnais fynd ati i sefydlu’r cwmni ar ein fferm deuluol ni yng nghanolbarth Cymru.

“Mae gwahoddiadau priodas yn elfen hollbwysig o’r diwrnod mawr. Dyma’r peth cyntaf mae’r gwesteion yn ei weld ac mae’n gosod y naws a’r safon ar gyfer y briodas”

Mae pob priodas yn unigryw, ac mae darpru nwyddau unigryw a phersonol yn rhan annatod o’r busnes. Mae’n fraint cael cydweithio gyda chyplau yng Nghymru a thu hwnt, ac rwy’n ffodus i gael bod yn rhan bach o’r diwrnod mawr.

Yn ogystal â’r nwyddau priodasol, rydw i hefyd yn cynllunio a chynhyrchu cardiau cyfarch unigryw, ac eto, mae’r wasanaeth personoli ar gael ar gyfer pob un o’r cynlluniau ar y wefan. Rwy’n ffodus bod siopau ar hyd a lled Cymru yn cysylltu â mi er mwyn gwerthu fy nwyddau,  os hoffech chi werthu fy nwyddau, cysylltwch!

Diolch am ymweld â’r dudalen, cysylltwch am fanylion pellach a phrisiau!