Telerau a’r Broses Archebu
Terms and Order Process

Telerau / Terms :

Cysylltu: Os oes gennych unrhyw gwestiwn, os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu drafod rhai o’ch syniadau ffoniwch 01650 531 517 neu anfonwch e-bost ata i ac mi fydda i’n falch iawn o’ch cynorthwyo. / Contact: If you have any questions, if you would like more information or discuss some of your ideas call 01650 531 517 or send me an email and I'll be very pleased to assist you.

Ymddangosiad a lliwiau / Appearance and colors :

Oherwydd cyfyngiadau’r rhyngrwyd gall lliwiau amrywio o’r lluniau ar y wefan. Yn yr un modd gall amrywiadau bychain ddigwydd yn y cynnyrch oherwydd eu bod yn cael eu cynhyrchu â llaw. / Due to the limitations of the internet, colors can vary from the pictures on the website. Similarly, small variations can occur in the product because they are manually produced.

Prisiau / Prices :

Gall prisiau newid heb rybudd. NI fydd pris cynyddol yn cael effaith ar archebion sydd wedi cael eu cadarnhau. / Prices can change without notice. Increasing price will not influence confirmed orders.

Taliadau / Payments :

Gallwch dalu drwy Paypal. Holwch am opsiynau eraill. / You can pay through Paypal. Ask for other options.

Canslo Archeb / Order cancellation :

Gallwch ganslo eich archeb hyd at 5 diwrnod ar ôl i ni anfon cadarnhad o dderbyn eich blaendal. Ni fydd blaendal yn cael ei ad-dalu ar ôl y dyddiad hwnnw. Unwaith y byddwch wedi derbyn eich proflenni ac wedi eu cadarnhau bydd y gwaith yn dechrau ac ni fydd modd canslo eich archeb. / You can cancel your order up to 5 days after we have received confirmation of receiving your deposit. A deposit will not be repaid after that date. Once you have received your proofs and confirmed the work will start and your order will not be cancelled.

Dychwelyd archeb / Return order :

Mewn achosion go annhebygol o gwyn,o rhaid i’r cwsmer roi gwybod o’r gwyn yn ysgrifenedig o fewn 7 saith diwrnod o dderbyn yr archeb. Ni fyddwn yn ystyried cwynion ar ôl y cofnod hwnnw. Dylai eitem gael ei dychwelyd atom heb gael ei defnyddio ac yn dal i fod yn ei phecyn gwreiddiol o fewn 10 diwrnod. Cyfrifoldeb y cwsmer fydd cost dychwelyd yr eitem a byddwn yn eich cynghori i ddefnyddio dull dosbarthu a gofnodwyd gan na all Eirian Wyn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am eitemau coll. / In unlikely case of a complaint, the customer must notify the complaint in writing within 7 days of receiving the order. We will not consider complaints after that period. An item should be returned to us without being used and still in its original packaging within 10 days. It will be the customer's responsibility to return the item and we will advise you to use a recorded distribution method as Eirian Wyn cannot accept any responsibility for lost items.

Cofiwch: Mae rhai darnau bychain ar rai o’r cardiau sydd ddim yn addas ar gyfer plant ifanc. / Remember: There are some small pieces on some of the cards that are not suitable for young children.

Mae’r nwyddau yn eiddo i Eirian Wyn hyd nes y byddwn wedi derbyn taliad llawn. / The goods are owned by Eirian Wyn until we have received a full payment.

Archebu / Order Process :

Does dim lleiafswm archebu. / There is no minimum order.

I archebu – llenwch y ffurflen archebu ar ein gwefan. / To order - fill out the order form on our website.

Unwaith y bydda i wedi derbyn eich archeb byddaf yn anfon derbynneb  ac yn rhoi gwybod pryd y gallwch ddisgwyl  dderbyn yr archeb. Byddaf hefyd yn gofyn i chi gadarnhau’r geiriad, mae gofyn bod y unrhyw eiriau yn cael eu teipio neu eu bod wedi’u hysgrifennu’n glir - gallwch anfon y rhain ar e-bost. / Once I have received your order, I will send a receipt and tell you when you can expect to receive the order. I will also ask you to confirm the wording, the words are required to be typed or clearly written - you can send these by e-mail.

Mae pob archeb yn ddibynnol ar y ba ddeunyddiau sydd ar gael. Os byddwn yn cael trafferth cael gafael ar ddeunyddiau angenrheidiol byddwn yn rhoi gwybod i’r cwsmer a bydd deunydd tebyg o’r un ansawdd yn cael ei gynnig. / All orders are dependent on what materials are available. If we have difficulty getting access to necessary materials, we will inform the customer and similar quality material will be offered.

Prawf ddarllen: / Proof reading:

Gofynnwn i chi wirio bod manylion y geiriau yn gywir pan fyddwch yn eu hanfon ataf. Unwaith y byddwch wedi derbyn eich proflen, gofynnwn i chi ei gwirio yn ofalus ac anfon e-bost ataf yn cynnwys unrhyw newidiadau neu e-bost ataf yn cadarnhau cywirdeb y broflen. Cwsmeriaid sydd yn gyfrifol am y gwaith prawf-ddarllen.  Mae cwsmeriaid hefyd yn gyfrifol am sicrhau’r caniatâd perthnasol  a’r hawlfraint sydd ynghlwm ag unrhyw ddarn o waith (hy defnyddio cerdd, darn o gerddoriaeth ayyb mewn Trefn Gwasanaeth) / We ask you to confirm that the details of the wording are correct when you send them to me. Once you have received your proof, we ask you to check it carefully and send me an email containing any changes or email us confirming the proof is correct. Customers are responsible for the proof-reading. Customers are also responsible for obtaining the relevant permission and copyright attached to any piece of work (ie using music, piece of music etc. in the Order of Service)

Ni fyddwn yn dechrau gwaith ar eich archeb hyd nes y byddwn wedi derbyn cadarnhad o gywirdeb y broflen a’ch dymuniad. Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cadarnhad o gywirdeb y broflen ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am gamgymeriadau na welwyd yn ystod y cyfnod prawf-ddarllen. Bydd unrhyw newidiadau pellach ar ôl derbyn eich cadarnhad yn arwain at gostau ychwanegol.  / We will not start work on your order until we have received confirmation that the proof is correct. Once we have received your confirmation of the proof, we cannot accept responsibility for errors that were not seen during the proof-reading period. Any further changes after receiving your confirmation will result in additional costs.

Dosbarthu / Distribution :

Nodwch, os gwelwch yn dda, ein bod yn derbyn archebion i’w danfon i gyfeiriadau yn y DU yn unig.  Mae archebion yn cael eu hanfon drwy wasanaeth Dosbarth Cyntaf y Post Brenhinol. Gall cwsmeriaid eu casglu yn rhad ac am ddim. Gallwn eu hanfon i gyfeiriad gwahanol i’ch cyfeiriad cartref e.e. man gwaith, os bydd angen. / Please note, we only accept orders to addresses in the UK only. Orders are posted through the Royal Mail First Class service. Customers can collect them for free. We can send them to a different address to your home address e.g. work place, if needed.

Cardiau Cyfarch: Dylech ganiatáu 1 wythnos ar ôl dyddiad derbyn eich taliad. / Greeting Cards: Allow 1 week after the date of receipt of your payment.

Deunyddiau Priodas: Dylech ganiatáu 3 i 4 wythnos ar ôl dyddiad  derbyn cadarnhad o’r broflen. / Wedding Stationery : Allow 3 to 4 weeks after confirmation of proof.

Fodd bynnag, os dymunwch dderbyn yr archeb cyn hynny, cysylltwch â mi i drafod oes modd cyflawni’r archeb erbyn y dyddiad dan sylw.  / However, if you wish to receive the order before then, please contact me to discuss whether the order can be achieved by the date in question.

Dylech roi gwybod am unrhyw ddifrod i’ch archeb o fewn 5 diwrnod. / You should report any damage to your order within 5 days.

 

Enghreiffitau (Deunyddiau pirodas) / Samples (Wedding Stationery) :

Rydym yn awgrymu’n gryf eich bod yn archebu enghraifft o’r cynllun rydych wedi’i ddewis yn y lliw ddewisoch chi cyn cadanhau eich archeb. Y gost ar gyfer pob enghraifft ydy £3.50 + £1.50 cludiant. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i anfon yn darnau hyn atoch mor fuan â phosib ond gall gymryd hyd at bythefnos o ddyddiad derbyn eich archeb yn ystod cyfnodau prysur.  / We strongly suggest that you order an sample of the scheme you have chosen in the color you chose before booking your order. The cost for each sample is £3.50 + £ 1.50 postage. We will make every effort to send the samples to you as soon as possible but it can take up to two weeks from the date of receiving your order during busy periods.